P-04-600
Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu –
Cymru
Er mai meddygon teulu sy'n cynnal 90% o'r holl ymgynghoriadau
â chleifion y GIG, dim ond 8.39% o gyllideb y GIG yn y DU a
gaiff ei ddyrannu iddynt - y ganran isaf erioed. Erbyn 2017,
rhagwelir y bydd hyn yn gostwng i 7.29% .
O ganlyniad, mae'r gwasanaeth meddygon teulu yn wynebu argyfwng
cynyddol.
Oherwydd llwyth gwaith affwysol ein meddygon teulu, eleni'n unig,
bydd yn rhaid i gleifion aros dros wythnos i weld eu meddyg teulu
mewn o leiaf 27 miliwn o achosion.
Ac, yn ôl arolwg a gynhaliwyd ym mis Mawrth, mae mwy na thri
o bob pump yn awr yn credu bod nifer yr ymgynghoriadau a gaiff
meddyg teulu â'i gleifion - hyd at 60 y dydd - yn bygwth
safon y gofal a gaiff y claf.
I sicrhau gwasanaeth o safon i bob claf, galwaf ar Brif Weinidog
Cymru i godi'r gyfran o gyllideb y GIG a gaiff ei gwario ar y
gwasanaeth meddygon teulu yng Nghymru i 11% erbyn 2017.
Byddai'r cynnydd hwn yn galluogi meddygfeydd i sicrhau:
Nad oes yn rhaid aros mor hir am apwyntiadau a bod modd cynnig
oriau agor mwy hyblyg
Ymgynghoriadau hirach, yn enwedig i gleifion sydd â chyflyrau
tymor hir
Mwy o gyfle i gleifion weld meddyg teulu sy'n eu hadnabod Cynllunio
a chydgysylltu gofal yn well, yn enwedig i'r henoed a chleifion ag
anghenion cymhleth Manteision a fydd yn gwella'r GIG yn
gyffredinol, gan leihau'r baich ar yr ysbytai.
Mae meddygfeydd yn rhan ganolog o gymunedau lleol. Galwaf ar
Lywodraeth Cymru i weithredu'n awr i sicrhau bod gan feddygfeydd yr
adnoddau sydd eu hangen arnynt i barhau i ddarparu gofal o'r safon
uchel y mae cleifion yn ei haeddu.
Prif ddeisebydd:
Royal
College of General Practitioners
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
7 Hydref 14
Nifer y llofnodion:
15,000 llofnod papur a mwy na 500 a’r wefan
deiseb wahanol